Yng Ngofal wrth Law, rydym yn cyflogi 190 o weithwyr gofal sy’n gweithio’n agos gyda’n tîm rheoli o wyth. Rydym yn dîm cyfeillgar ac agos at ein gilydd, ac rydym bob amser yn chwilio am fwy o bobl i ymuno â’n tîm.
O swyddi goruchwylwyr, cyd-drefnwyr a hyfforddwyr i rolau ymarferol gofalwyr a chynorthwywr personol, gall Gofal wrth Law gynnig gyrfa esgynnol sy’n rhoi boddhad ac sy’n werth chweil i unrhyw un sy’n frwd dros ofalu ac yn dymuno helpu eraill.
Os ydych yn pendroni ynghylch p’un ai fyddai gyrfa mewn gofal yn yrfa gywir i chi, ceir adnoddau hynod ddefnyddiol yn www.aquestionofcare.org.uk. Ar y wefan hon, bydd nifer o fideos a chwestiynau’n rhoi prawf ar sut byddech yn ymdrin â sefyllfaoedd amrywiol y gallech eu hwynebu yn eich gwaith bob dydd.
Er mwyn canfod beth y gallai Gofal wrth Law ei gynnig i chi o ran gyrfa, ewch i Pam Gweithio Gyda Ni neu Beth Rydym yn ei Gynnig i’n Staff. Os hoffech chi gofrestru eich diddordeb mewn gweithio fel rhan o’r tîm yng Ngofal wrth Law, llenwch y ffurflen ar-lein isod.